Mae ymgyrchwyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi gwadu bod ymgyrch Vote Leave wedi twyllo cyn cynnal y refferendwm y llynedd.

Mae’r honiadau’n ymwneud â chysylltiadau Vote Leave â chriw arall o ymgyrchwyr, BeLeave.

Yn ôl Shahmir Sanni, un o’r ymgyrchwyr, roedd Vote Leave wedi defnyddio’r criw ymgyrchu arall i osgoi rheolau ar wariant a gafodd eu gosod gan y Comisiwn Etholiadol. Ond mae Vote Leave yn dweud eu bod nhw wedi ymddwyn yn briodol wrth ymdrin â rhodd o £625,000.

Dywedodd Shahmir Sanni wrth raglen newyddion Channel 4: “Dw i’n gwybod fod Vote Leave wedi twyllo… Dw i’n gwybod fod pobol wedi cael clywed celwyddau ac nad oedd y refferendwm hwnnw’n ddilys.”

‘Angen atebion’

Ymhlith y gwleidyddion oedd yn rhan o’r ymgyrch tros adael roedd Boris Johnson, Michael Gove a Chris Grayling.

Yn ôl dirprwy arweinydd Llafur, Tom Watson: “Mae arweinwyr Vote Leave yn uwch weinidogion cabinet. Mae angen atebion arnon ni am yr hyn ddigwyddodd go iawn.”

Ond yn ôl Boris Johnson, roedd yr ymgyrch tros adael wedi ennill “yn gwbl deg, ac yn gyfreithlon”.

Shahmir Sanni

Adeg y refferendwm, roedd Shahmir Sanni mewn perthynas â Stephen Parkinson, sydd bellach yn ysgrifennydd gwleidyddol Prif Weinidog Prydain, Theresa May.

Mae’n cyhuddo’i gyn-bartner o gyhoeddi gwybodaeth am y sefyllfa ar drothwy eitem newyddion gan Channel 4, ac mae’n dweud bod yr adroddiad yn “ffeithiol anghywir a chamarweiniol” yn sgil datganiadau Shahmir Sanni a’i gyfreithwyr.

Mae llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y dylai’r heddlu ymchwilio i’r mater.

Ymateb Vote Leave

Mae ymgyrch Vote Leave yn gwadu’r honiadau, gan ddweud eu bod yn craffu ar wariant ar yr ymgyrch.

“Fe fyddwn ni, fel y bo’n briodol, yn rhannu unrhyw gasgliadau perthnasol â’r Comisiwn Etholiadol, fel yr ydyn ni wedi’i wneud erioed.”

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi gwrthod gwneud sylw, ond mae Boris Johnson yn dweud bod yr honiadau’n “hollol chwerthinllyd”.