Mae golygydd papur newydd o wledydd Prydain wedi’i garcharu am ddeng mlynedd am ladd ei wraig â morthwyl yn Dubai.

Doedd Francis Matthew ddim yn y llys i glywed ei dynged.

Roedd cyn-olygydd y Gulf News yn wynebu’r posibilrwydd o gael y gosb eithaf am y drosedd a gyflawnodd fis Gorffennaf y llynedd.

Fe allai apelio yn erbyn y ddedfryd.

Cefndir

Ar Orffennaf 4, cafodd yr heddlu eu galw i gartref Francis Matthew yn Jumeirah, lle daethon nhw o hyd i gorff ei wraig. Roedden nhw’n briod am fwy na 30 o flynyddoedd.

Dywedodd y newyddiadurwr fod lladron wedi torri i mewn i’w cartref a lladd ei wraig.

Ond yn ddiweddarach, fe gyfaddefodd ei fod e a’i wraig wedi ffraeo tros eu dyledion, a’i bod hi wedi ei wthio cyn iddo gael gafael mewn morthwyl a’i tharo yn ei phen ddwywaith â morthwyl yn eu hystafell wely.

Fe wnaeth e waredu’r morthwyl y bore canlynol, a threfnu eu cartref i roi’r argraff fod lladron wedi bod yno.