Mae Sport Relief wedi codi mwy na £38m at achosion da eleni.

Y ffigwr ar ddiwedd y rhaglen deledu neithiwr oedd £38,195,278 ac mae “haelioni” trigolion gwledydd Prydain wedi cael ei ganmol.

Dywedodd y gyflwynwraig, Davina McCall: “Mae Sport Relief bob amser yn noson arbennig a heno, unwaith eto, fe welson ni’r cyhoedd yn dangos pa mor hael ydyn nhw.

“Dw i wedi bod yn lwcus i gael mynd i weld y gwaith sy’n bosib, diolch i’ch cyfraniadau chi, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd a gallaf ddweud yn sicr ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

“Diolch, diolch i bawb sydd wedi cadw’n heini a chefnogi Sport Relief eleni.”

Y noson

Freddie [Andrew] Flintoff, Gary Lineker, Paddy McGuinness, Ore Oduba a Claudia Winkleman oedd y cyflwynwyr eleni.

Canodd Kylie Minogue ‘Dancing’ cyn ateb galwadau ffôn yn ystod y noson, ynghyd â’r gantores Americanaidd Meghan Trainor.

Ymhlith y rhai fu’n apelio am arian yn ystod y noson roedd yr actorion Cuba Gooding Jr a David Tennant.

Cododd DJ Radio 1, Greg James £1,090,522 drwy gwblhau her feicio yn y mynyddoedd, tra bod y Gymraes Alex Jones hefyd wedi codi £799,991.

Roedd natur yr apêl wedi newid rywfaint eleni yn dilyn cwynion bod enwogion yn cael eu defnyddio i roi pwysau ar y cyhoedd. Eleni, roedd pob apêl yn canolbwyntio ar rai o’r unigolion fydd yn elwa o’r arian.