Mae Gweinidogion wedi lansio ymgyrch hysbysebu newydd fel rhan o ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau cyllell.

Bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio straeon bywyd go-iawn i geisio annog pobl ifanc i beidio â chario llafnau.

“Mae’r straeon emosiynol sydd wrth wraidd ymgyrch newydd Knife Free yn rhoi’r neges, mewn modd pwerus, pa effaith bellgyrhaeddol y gall ei gael ar fywyd person ifanc os ydynt yn gwneud y penderfyniad anghywir i gario cyllell,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd.

“Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw berson ifanc sy’n meddwl o ddifrif am gario cyllell yn gwrando ar yr hyn y gall y goblygiadau ei wneud a sylweddoli pa opsiynau sydd ar gael os ydynt yn dewis byw’n rhydd rhag cyllyll.”

Bydd £1.35 miliwn yn cael ei wario er mwyn  dangos hysbysebion ar gyfryngau cymdeithasol a sianelau digidol, er mwyn targedu pobl ifanc 10-21 oed sy’n defnyddio’r platfformau hyn.

Bydd posteri hefyd yn cael eu dangos mewn dinasoedd yn Lloegr lle mae trosedd cyllell yn fwy cyffredin.

Mae trais cyllyll wedi dod o i’r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dilyn cyfnod o anafiadau angheuol.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi 37,443 o droseddau sy’n ymwneud â chyllyll neu arfau miniog yn y flwyddyn hyd at fis Medi, cynnydd o 21% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.