Teuluoedd â phlant yw hanner y bobol sy’n defnyddio banciau bwyd, meddai astudiaeth newydd.

Mae gan saith o bob deg teulu sy’n mynd i fanciau bwyd, blant sy’n ddibynnol arnyn nhw, yn ôl ymchwil gan sefydliad ymchwil economi wleidyddol Prifysgol Sheffield.

Cafodd bron i 600 o deuluoedd â phlant dan 16 oed eu holi a’u hastudio, gyda phedwar allan o bob pump yn cael eu hystyried yn diodde’ o “anhwylder bwyd difrifol”. Mae hynny’n golygu eu bod wedi mynd heb brydau a heb fwyta, weithiau am ddyddiau.

Rhieni sengl sy’n defnyddio banciau bwyd yw’r fwyaf tebygol o adrodd am gynnydd mewn costau bwyd a thai.