Mae gwleidydd Sinn Féin wedi datgelu ei fod wedi cael ei gam-drin yn gorfforol pan oedd yn fachgen ysgol, a hynny gan offeiriad a oedd yn bedoffeil.
Mae Conor Murphy wedi sôn am sut yr arferai Malachy Finnegan ei lusgo i mewn i swyddfa a’i guro’n ffyrnig gyda ffon, cyn ei holi’n chwyrn.
Mewn cyfweliad â’r Press Association, mae Conor Murphy yn sôn am ei brofiadau ddiwedd y 1970au yng Ngholeg St Colman yn Newry, County Down.
Roedd yn ddisgybl yno rhwng 1975 a 1980, ac mae’n dweud ei fod yn ddig nad oedd neb mewn awdurdod wedi atal y cam-drin.
Mae’n honni fod diddordeb rhywiol Malachy Finnegan mewn bechgyn ifanc yn “wybodaeth gyhoeddus” yn yr ysgpl.
Mae’n galw am ymchwiliad llawn.