Dydi darparwyr band eang gwledydd Prydain ddim yn rhoi digon o wybodaeth i gwsmeriaid am ansawdd y gwasanaeth, yn ôl adroddiad.

Daeth cymdeithas Which? i’r casgliad yma wedi iddyn nhw alw sawl un o ddarparwyr band eang, a nodi pa fath o atebion gawson nhw i gwestiynau.

Er bod disgwyl i gwmnïau roi gwybodaeth i gwsmeriaid am gyflymder disgwyliedig y gwasanaeth, bron i hanner yr amser (47%) doedd hyn ddim yn digwydd.

Mae hefyd disgwyl i ddarparwyr dynnu sylw at rhai o’r ffactorau sy’n medru cael effaith ar gyflymder band eang.

Roedd TalkTalk, Vodafone ac EE Broadband ymhlith y cwmnïau gwaethaf o ran darparu gwybodaeth.

Disgwyliadau

“Mae gennych yr hawl i gael syniad clir o ba gyflymderau y gallwch ddisgwyl o ddêl band eang cyn i chi arwyddo cytundeb,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Which?, Alex Neill.

“Ond, mae’n ymchwil ni yn dangos bod tipyn o waith gan ddarparwyr i wneud er mwyn gwireddu disgwyliadau eu cwsmeriaid.”