Ni all Prydain gymryd yn ganiataol y bydd n cynnal ei sefyllfa flaenllaw ym myd gwyddoniaeth ac arloesedd ar ôl Brexit, yn ôl rhybudd gan bwyllgor o Aelodau Seneddol.

Mae angen i’r Prif Weinidog Theresa May weithredu “yn gyflym” i gyflawni ei haddewid o gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ar faterion gwyddonol, a hynny’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, meddai Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin.

Dylai cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi manwl fod mewn lle erbyn mis Hydref fan bellaf, meddai’r pwyllgor wedyn.

Ac fe rybuddiodd y dylai’r Llywodraeth weithredu nawr i wneud rheolau mewnfudo eglur yn y dyfodol ar gyfer gwyddonwyr ac egluro statws myfyrwyr yr UE sy’n ymgeisio i brifysgolion y Deyrnas Unedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2019.

Mynegodd y pwyllgor “bryder” nad yw’n ymddangos bod y Llywodraeth yn bwriadu cymryd rhan yng nghylch nesaf rhaglen gyllido ymchwil flaenllaw yr UE, a’i hannog i ddatgan yn glir y bydd yn ceisio statws cyswllt.