Mae Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Llafur, yn dweud fod y blaid yn fwy unedig gan Jeremy Corbyn nag y mae wedi bod ers blynyddoedd.

Mae Jennie Formby, cyn-gyfarwyddwr rhanbarthol i’r undeb Usain, hefyd yn dweud ei bod am weld y blaid yn symud fwyfwy i sefyll tros oddefgarwch a chroeso.

“Mae cryfderau Llafur yn gorwedd ar dri philer – sef cefnogaeth miliynau o bleidleiswyr, aelodaeth unigol sy’n llawer mwy nag unrhyw blaid wleidyddol Brydeinig arall, a’n cysylltiad gyda’r undebau llafur,” meddai.

“Rwy’n credu fy mod mewn sefyllfa dda i helpu ein plaid i adeiladu ar y tri pheth yna, a symud ymlaen.”

Jennie Formby yw’r ail wraig i gael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur, ac mae wedi bod yn aelod ers 40 mlynedd. Ymunodd gyntaf pan oedd hi’n 18 oed, yr un pryd ag y daeth yn aelod o’r Undeb Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol (TGWU), sydd bellach yn rhan o Unsain.