Mae cyn-arweinydd Llafur yn yr Alban, Kezia Dugdale, wedi datgelu i bobol fygwth ei lladd hi deirgwaith mewn chwed blynedd, trwy negeseuon ar wefan Twitter.

Dyna pam, meddai, y mae hi’n cefnogi ymgyrch sy’n annog Twitter i wneud mwy i atal cam-drin ar-lein.

Mae’n ymuno â Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ac arweinydd y Ceidwadwyr, Ruth Davidson, i ddatgelu maint y gasineb sy’n cael ei daflu at wleidyddion benywaidd ar y we.

Mae’r tair hefyd yn cefnogi ymgyrch Amnesty, ‘Toxic Twitter’, sy’n herio’r cyfrwng cymdeithasol i fynd i’r afael â’r broblem.

“Pe bawn i’n dangos fy ngholofn @ i ar Twitter nawr, byddai 90% ohono’n negeseuon o gam-drin,” meddai Kezia Dugdale.

“Mae’n rhaid i mi edrych ar hyn oll bob tro dw i’n sgrolio drwy’r pethau da er mwyn ceisio dod o hyd i’r bobol hynny sydd wirioneddol yn ceisio cysylltu efo fi.

“Dair gwaith yn y chwe blynedd rydw i wedi bod yn wleidydd etholedig, dw i wedi teimlo bod angen ei riportio i’r heddlu. Mae hyn yn cynnwys tri achos lle’r oedd fy mywyd i dan fygythiad.”

Profiad Ruth Davidson 

Yn ôl Ruth Davidson, mae maint y gamdriniaeth weithiau wedi gwneud iddi deimlo fel ei bod hi’n cael ei “herlid” ar-lein.

“Gan fy mod i’n agored hoyw … yn enwedig pan godais fy llais i ddechrau, roedd llawer o gam-drin homoffobig, ac mae gen i lawer o bobol ifanc hoyw sy’n fy nilyn ar Twitter… I mi, mae hi bob amser wedi bod yn eithaf pwysig tynnu sylw at hyn,” meddai.

“Felly, mae’r holl bethau am fod yn ‘dew, hyll, yn Dori felltigedig’, dw i’n eu gadael naill ochr, ond bob hyn a hyn, bob mis, fwy neu lai, byddaf yn ail-drydar neu’n ailddechrau cwffio rhywfaint ar y negeseuon cam-drin homoffobig, oherwydd rwy’n credu ei fod yn bwysig bod pobol yn gweld nad yw’r math hwnnw o iaith yn dderbyniol, ac nad oes raid i chi ei dderbyn.”