Mae David Davis wedi bod yn cwrdd a phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier ym Mrwsel heddiw i geisio cytuno ar strwythur yn ystod y cyfnod trosglwyddo pan fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn y cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd Brexit a Michel Barnier ddydd Llun dywedodd David Davis eu bod wedi dod i gytundeb sy’n cynrychioli  “cam sylweddol” ymlaen.

Mewn cynhadledd i’r wasg ychwanegodd Michel Barnier ei fod yn “gam cadarnhaol” ond bod “llawer o waith i’w wneud o hyd ynglyn a rhai materion pwysig fel Iwerddon a Gogledd Iwerddon.”

Gobaith y Deyrnas Unedig oedd y byddan nhw’n gallu dod i gytundeb pan fydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd ar gyfer uwchgynhadledd ddydd Iau, a fydd yn arwain y ffordd at drafodaethau ffurfiol ynglŷn â’r berthynas fasnach wedi Brexit.

Daw’r cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd Brexit a Michel Barnier wrth i rai Ceidwadwyr amlwg rybuddio bod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig allu arwyddo cytundebau masnach ffurfiol yn ystod y cyfnod trosglwyddyn ar ôl gadael yr UE ym mis Mawrth 2019.

Fe fydd y Prif Weinidog Theresa May yn teithio i Frwsel ddydd Iau ar gyfer cyfarfod gyda’r Cyngor Ewropeaidd lle mae hi’n gobeithio y gellir sicrhau cytundeb ynglyn a’r trefniadau.