Mae’r cyflwynydd teledu Ant McPartlin wedi cael ei ryddhau o’r ddalfa ar ôl cael ei arestio ddoe ar amheuaeth o yfed a gyrru, yn ôl adroddiadau.

Credir ei fod wedi bod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad gyda dau gar arall wrth iddo yrru ei gar Mini yn Richmond, gorllewin Llundain, bnawn dydd Sul, 18 Mawrth.

Roedd wedi methu prawf anadl ar ochr y ffordd a chafodd ei arestio.

Dywedodd yr heddlu bod plentyn a oedd yn teithio yn un o’r ceir wedi cael eu cludo i’r ysbyty fel rhagofal. Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan bod nifer o bobl wedi cael eu trin ar y safle am fan anafiadau.

Cafodd Ant McPartlin, 42 oed, ei holi yng ngorsaf yr heddlu yn ne Llundain ac mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf mewn cyfres o broblemau personol i’r cyn-seren bop a’r cyflwynydd ar raglenni poblogaidd fel I’m A Celebrity… Get me Out of Here! a Ant And Dec’s Saturday Night Takeaway.

Y llynedd, fe fu’n derbyn triniaeth ar ôl mynd yn gaeth i gyffuriau lladd poen oherwydd anaf i’w goes a gafodd yn 2015, ac yn ddiweddarach eleni, fe gyhoeddwyd bod yntau a’i wraig, Lisa, wedi penderfynu gwahanu ar ôl 11 mlynedd o briodas