Mae teulu mam a merch a gafodd eu saethu’n farw yn eu cartref yn Nwyrain Swydd Sussex wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Cafodd yr heddlu eu galw i’w cartref am 7.43 nos Wener, ac fe lwyddon nhw i achub dwy ddynes arall. Mae un o’r ddwy yn feichiog.

Mae dyn 35 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio Heather Whitbread, 53, a’i merch Michelle, 32 yn ardal St. Leonards nos Wener. Daeth yr heddlu o hyd i ddryll yn y fan a’r lle.

Roedd y ddwy yn adnabod y dyn sydd wedi’i arestio.

‘Pobol hyfryd’

Mewn teyrnged drwy law’r heddlu, dywedodd y teulu: “Roedd Heather a Michelle ill dwy yn bobol hyfryd oedd wedi llenwi ein teulu â’u chwerthin.

“Roedden nhw ill dwy yn bobol arbennig, hael a charedig oedd yn caru bywyd ond yn fwyaf oll, yn caru eu teulu.

“Bydd colled fawr ar eu hôl nhw a bwlch na fydd modd ei lenwi fyth.”