Mae Aelod Seneddol a geisiodd helpu plismon a gafodd ei drywanu i farwolaeth ger San Steffan yn dweud ei fod yn dal i ddioddef o effeithiau’r ymosodiad.

Aeth Tobias Ellwood at Keith Palmer, 48, ar ôl i’r jihadydd Khalid Masood ymosod arno â chyllell y tu allan i adeiladau’r Senedd yn Llundain fis Mawrth y llynedd.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r Aelod Seneddol yn dweud ei fod yn cael pyliau o deimlo y gallai fod wedi gwneud rhagor i helpu’r plismon.

Dywedodd wrth y Sunday Times: “Roedd e’n fyw pan wnes i gyrraedd y fan a’r lle. Dyna sy’n aflonyddu arna i… pan wnes i gyrraedd, roedd e’n fyw ac roedd ganddo fe byls, ond doedd dim wrth i fi adael.

“Wnes i ddim llwyddo y diwrnod hwnnw ac mae’n rhaid i fi fyw gyda hynny bob dydd.

“Dw i’n dal i grafu ‘mhen yn meddwl beth arall y gallwn i fod wedi’i wneud.”

Y cefndir

Collodd Tobias Ellwood ei frawd, Jon yn dilyn ymosodiad gan fomiwr ar ynys Bali yn 2002.

Ar Fawrth 22, rhuthrodd Khalid Masood drwy ganol cerddwyr ar bont Westminster cyn mynd at giatiau’r Senedd â dwy gyllell yn ei feddiant.

Cafodd Keith Palmer ei drywanu ganddo yn ei wddf a’i frest, ac fe gafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Cofio’r diwrnod

Wrth gofio’n ôl, dywedodd Tobias Ellwood: “Dw i’n cofio’n fyw iawn y tawelwch yn cyferbynnu â’r prysurdeb arferol, ac yna’r hofrennydd yn glanio, oedd yn swnllyd iawn. Ac yna fe ddaeth y bois mewn coch – y rhai â ‘meddyg’ ar eu gwisg – oedd yn rhyddhad mawr.

“Ro’n i’n disgwyl i’r hofrennydd ei gludo i ffwrdd ond yn amlwg, roedd rhaid iddyn nhw ei sefydlogi fe cyn eu bod nhw’n gallu ei symud e. Ro’n i’n disgwyl bryd hynny cael cais yn gofyn i fi symud i ffwrdd, ond gofynnwyd i fi barhau i wasgu [ei frest].

“Do’n i ddim yn gwybod pryd i stopio, hyd yn oed pan ddywedodd y meddyg ei fod e’n credu ein bod ni wedi gwneud popeth roedden ni’n gallu ei wneud iddo fe.

“Dywedais i, “Bydd rhaid i chi ddweud wrtha i am stopio oherwydd dw i’n rhoi ocsigen yn ei ymennydd e.

“Edrychodd e arna i a galw amser ei farwolaeth, a dweud, “Diolch. Ry’n ni wedi gwneud popeth allwn ni.”