Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl gyrru at dorf ger clwb nos ac anafu 13 o bobol yn Swydd Gaint.
Mae nifer o bobol wedi torri esgyrn yn y digwyddiad yn Gravesend.
Cafodd y cerbyd ei yrru i mewn i adeilad Blake’s ac i ganol llawr dawnsio am oddeutu 11.45 nos Sadwrn.
Mae lle i gredu bod y gyrrwr wedi cael ei anfon o’r adeilad yn dilyn ffrwgwd.
Does neb mewn cyflwr sy’n peryglu eu bywydau, yn ôl yr heddlu, a dydy’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un brawychol.
Mae’r clwb nos wedi canmol ymateb y gwasanaethau brys a’r gymuned gyfan.