Mae dyn wedi marw yn Llundain, ar ôl i’r heddlu ddod o hyd iddo wedi’i saethu a’i drywanu.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i’r dyn yn ei 20au gael ei ganfod yn Enfield yn ystod oriau mân dydd Sadwrn (Mawrth 17).

Fe gafodd plismyn eu galw tua 12.40yb, a bu farw’r dyn ychydig dros hanner awr yn ddiweddarach.

Fe ddaethpwyd o hyd i ddyn arall – hefyd yn ei 20au – wedi’i drywanu yn y ddinas. Mae wedi’i gludo i’r ysbyty, ac mae mewn cyflwr sefydlog.