Fydd bywyd dyn byth yr un fath, wedi ymosodiad gyda machete ger bar ym Manceinion nos Wener (Mawrth 16).

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Catalan Square yn y ddinas tua 10.10yh, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Roedd dyn yn ei 30au wedi bod yn y Barca Club gyda rhai o’i ffrindiau pan gerddodd dyn arall heibio iddo a gwneud sylwadau am grwp o bobol yn y bar.

Pan ofynnodd y dyn wrtho am bwyllo, fe drodd y gwaeddwr at ei gyfaill a gofyn iddo estyn am y machete allan o rycsac. Yna, fe drodd eto a bwrw llaw’r dyn â’r llafn.

Mae’r dyn wedi’i gludo i’r ysbyty, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth ar gyfer anafiadau sy’n mynd i newid ei fywyd.

Yn ôl Heddlu Greater Manchester, fe ddihangodd tri o bobol o Catalan Square ar gefn beic pedal.