Mae’r Tywysog Harry wedi beirniadu cynlluniau i roi llai o arian  i’r lluoedd arfog, wrth iddo ymweld ag un o safleoedd yr Awyrlu.

Roedd yn sylw ar bolisi Gweinyddiaeth Amdfiffyn llywodraeth San Steffan – rhywbeth nad ydi aelodau o’r teulu brenhinol yn ei wneud fel arfer.

Wrth siarad mewn safle cynhyrchu adenydd awyrennau yn Hampshire, dywedodd y Tywysog, sy’n gyn-filwr ei hun, wrth y milwyr a’u teuluoedd yno: “Rydych yn mynd i fod yn hedfan rhai o’r awyrennau gorau sydd ganddon ni i’w cynnig.

“Mewn rhai meysydd, mae cyllidebau yn crebachu, ond mewn gwirionedd, chi yw’r asedau… mae’r awyren hefyd yn ased a pheidiwch ag anghofio pwy ydach chi’n ei wasanaethu…”

Roedd eisoes wedi tynnu sylw at doriadau i gyllid y fyddin yn gynharach yr wythnos hon, wrth draddodi araith mewn cynhadledd am iechyd meddwl cyn-filwyr.