Mae Jeremy Corbyn wedi amddiffyn ei safiad tros ymosodiad Salisbury, wedi i’w dîm godi amheuon am gyfraniad Rwsia i’r digwyddiad.

Mae Arweinydd y Blaid Lafur yn dweud ei fod yn “condemnio’r [ymosodiad] yn llwyr” a bod “tystiolaeth yn awgrymu mai Rwsia” oedd yn gyfrifol.

Ond, mae yna bosibiliad, meddai, mai grwp sydd â chysylltiadau a Rwsia oedd y tu ôl i’r ymosodiad.

Ac mae e hefyd  wedi rhybuddio’r Prif Weinidog, Theresa May, i beidio â “rhuthro i gasgliadau” gan dynnu sylw at y “penderfyniadau byrbwyll” wnaeth arwain at Ryfel Irac.

Camau

Cafodd Jeremy Corbyn ei feirniadu ddydd Mercher (Mawrth 14) wedi iddo fethu a chefnogi penderfyniad Theresa May i ddiarddel 23 diplomydd Rwsia.

Ers hynny mae e wedi cadarnhau bod y Blaid Lafur yn cefnogi’r penderfyniad, ond mae e hefyd wedi cwestiynu’i effeithiolrwydd gan alw am fesurau i dargedu oligarchiaid Rwsia.

Mae’r ddau a gafodd eu targedu yn yr ymosodiad yng Nghaersallog, y cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia, yn parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.