Bydd dim amser gan Lywodraeth San Steffan i gyflwyno trefniadau tollau annelwig ar y ffin yn Iwerddon cyn Brexit, yn ôl grŵp dylanwadol o Aelodau Seneddol.

Mae Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon wedi dweud y gallai fod gofyn i’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb Dollau a’r Farchnad Sengl drwy gydol y cyfnod pontio o ddwy flynedd.

Mae’r cyfnod pryd fydd gwledydd Prydain yn dechrau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn nesáu, gydag ychydig dros flwyddyn tan fydd y broses yn dechrau.

Galwodd yr ASau ar y Llywodraeth i wneud mwy i egluro’r rheolau a’r prosesau a fydd yn caniatáu cael ffin lyfn, heb rwystrau, rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon, wedi Brexit.

Fe fethodd ymchwiliad y pwyllgor i ddod o hyd i ateb a fyddai’n osgoi ffin galed a hynny ar ôl i’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson awgrymu y gallai technoleg gael ei defnyddio i fonitro’r ffin.

‘Dim tystiolaeth i osgoi ffin annelwig’

Bydd cael ffin feddal sy’n hollol weithredol erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf yn “heriol”, meddai adroddiad y pwyllgor, oedd yn cynnwys aelodau o’r Blaid Geidwadol, y Democratiaid Unolaethol a Llafur.

“Dydyn ni heb weld tystiolaeth i awgrymu bod ffin annelwig yn bosib ar hyn o bryd,” meddai’r adroddiad.

“… Rydym yn argymell y dylai’r Llywodraeth gyflwyno cynigion manwl heb ragor o oedi a fyddai’n amlygu sut bydd yn cynnal ffin agored ac annelwig.”

Gwrthododd yr adroddiad unrhyw gynigion am ffin rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.

“Byddai hyn dim ond yn creu rhwystr costus i fasnachu gyda masnach fwyaf Gogledd Iwerddon a byddai’n anghyson ag ysbryd a bwriad Cytundeb Belfast/Dydd Gwener y Groglith.”

Ymateb Llywodraeth Prydain

“Fel rydym ni wastad wedi dweud, rydym ni eisiau cael cyfnod gweithredu cyfyngedig llym er mwyn darparu sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn ymrwymedig i ddiogelu’r Cytundeb Belfast, osgoi ffin galed a pheidio cael unrhyw seilwaith corfforol ar y ffin.”