Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu i farwolaeth yn Chadwell Heath, dwyrain Llundain, neithiwr (nos Fercher, Mawrth 14).

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 10.30yh, ac fe ddaethon nhw o hyd i’r dyn ifanc 18 oed wedi’i anafu gan gyllell. Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno yn ystod oriau mân dydd Iau.

Mae ystadegau sydd wedi’u rhyddhau gan Ambiwlans Awyr Llundain heddiw (Mawrth 15) yn dangos mai achosion o drywanu a saethu sy’n esgor ar y defnydd mwyaf o’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,

Mae un dyn wedi’i arestio mewn perthynas â’r digwyddiad yn Chadwell Heath.