Mae disgwyl neges obeithiol gan Ganghellor y Trysorlys heddiw wrth iddo draddodi Datganiad y Gwanwyn yn Nhy’r Cyffredin.

Fe fydd Philip Hammond yn dweud wrth Aelodau Seneddol fod y Deyrnas Unedig yn “elwa o flynyddoedd o gyni cyllidol, a pholisi economaidd llym”.

Dros y penwythnos, fe rybuddiodd bod dyled gwledydd Prydain yn parhau’n “uwch na’r lefel diogel” ar 86.5% o gynnyrch domestig gros (GDP).

Ond ychwanegodd bod disgwyl i’r ddyled ddechrau gostwng am y tro cyntaf ers 17 mlynedd, a bod diwedd i’r caledi economaidd “ar y gorwel”.

Llafur

Mae Canghellor yr wrthblaid yn San Steffan, John McDonnell, wedi galw ar Philip Hammond i ddod â’r cyni cyllidol i ben ac i “roi diwedd ar yr argyfwng ariannol yn ein sector cyhoeddus”.

“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar fin chwalu, ac mae llawer o’n cynghorau lleol yn agos at fethdalu,” meddai John McDonnell.

“Rhaid [i’r Canghellor] wrando ar alwadau ledled y sbectrwm gwleidyddol – gan gynnwys arweinydd Torïaidd ei etholaeth ei hun.”