Mae’r nwy nerfol a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno cyn-ysbïwr o Rwsia a’i ferch, yn edrych yn debyg i ymgais i lofruddio sydd wedi cael sel-bendith gan wladwriaeth, yn ôl Aelod Seneddol blaenllaw.

Yn ôl Tom Tugendhat, cadeirydd y Pwyllgor dros Faterion Tramor yn San Steffan, mi fydd yn “syndod” iddo pe na bai’r Prif Weinidog, Theresa May, yn rhoi’r bai ar Rwsia am wenwyno Sergei Skripal a’i ferch, Yulia.

Daw hyn wrth i Theresa May gadeirio cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) heddiw (Mawrth 12) er mwyn trafod yr ymosodiad a fu yn Salisbury (Caersallog) dros wythnos yn ôl.

Mae’r cyn-ysbïwr a’i ferch yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yn y dref, a chredir mai nwy nerfol a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno’r ddau.

Yn dilyn y cyhuddiadau mai Rwsia oedd y tu ôl i’r ymosodiad, mae’r Kremlin wedi ymateb trwy ddweud nad oedd ganddyn nhw ddim i’w wneud â’r digwyddiad.

“Pwyntio’r bys at y Kremlin”

Ond yn ôl Tom Tugendhat, a oedd yn siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 y bore yma, mae’n honni bod y digwyddiad yng Nghaersallog yn edrych yn debyg i “ymgais i lofruddio sydd wedi’i noddi gan wladwriaeth.”

“Mae ychydig yn rhy gynnar i fod yn hollol siŵr o hynny,” meddai. “Ond rydym yn disgwyl i’r Prif Weinidog wneud cyhoeddiad cyn bo hir.”

“Ac i ddweud y gwir, ni fydd yn syndod gen i ei bod hi’n pwyntio’r bys at y Kremlin.”

Mae cadeirydd y pwyllgor seneddol hefyd wedi rhybuddio y gall cefnogwyr pêl-droed sy’n teithio i Rwsia ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd eleni, fod o dan “fygythiad” pe bai tensiynau rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia yn “cynyddu”.