Fe fydd Theresa May yn cadeirio trafodaethau heddiw am ymosodiad Salisbury (Caersallog) dros wythnos yn ôl.

Mae’r Prif Weinidog wedi galw cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) pan fydd disgwyl i weinidogion glywed y dystiolaeth ddiweddaraf am y digwyddiad. Fe fydd penaethiaid milwrol a swyddogion cudd-wybodaeth yn bresennol hefyd.

Mae ’na ddyfalu bod y Llywodraeth yn agosach at gyhoeddi mai Rwsia sy’n gyfrifol am yr ymosodiad ar y cyn-ysbïwr o Rwsia, Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, ychydig dros wythnos yn ôl. Fe fydd Theresa May dan bwysau i weithredu’n gadarn os oes cysylltiad clir rhwng y Kremlin a’r ymosodiad.

Mae’r ddau yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yng Nghaersallog. Credir bod nwy nerfol wedi cael ei ddefnyddio i wenwyno’r ddau.

Ddoe, roedd pobol sydd wedi ymweld â thafarnau a bwytai yng Nghaersallog yn dilyn yr achos  o wenwyno, wedi cael cyngor i olchi eu dillad ar ôl bod yno. Cafodd olion o’r nwy nerfol eu darganfod yn The Mill a bwyty Zizzi.