Mae cyngor wedi ei roi i bobol sy’n ymweld â thafarnau a bwytai yn Salisbury (Caersallog) yn dilyn yr achos o wenwyno yno yr wythnos hon.
Mae cwsmeriaid wedi cael rhybudd i olchi eu dillad ar ôl bod yno, a hynny ar ôl i Sergei Skripal gael ei wenwyno â nwy nerfol. Cafodd olion o’r nwy eu darganfod yn The Mill a bwyty Zizzi.
Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Sally Davies, roedd llai na 500 o bobol wedi bod yn y naill le neu’r llall rhwng amser cinio dydd Sul a nos Lun.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Dr Jenny Harries mewn cynhadledd i’r wasg: “Mae hyn yn ymwneud ag ychydig iawn o risg o ddod i gyswllt drosodd a thro ag olion o wenwyn y gallai pobol fod wedi mynd allan gyda nhw.
“Mae’r cyngor rydym yn ei roi heddiw’n ymwneud â golchi dillad – pethau syml iawn… bydd hynny’n gwaredu’r risg wrth i ni symud ymlaen.”
Cyngor arall
Ymhlith y cyngor arall i gwsmeriaid mae:
– golchi dillad a gafodd eu gwisgo’r diwrnod hwnnw
– rhoi dau fag o amgylch y dillad
– Sychu eiddo personol â lliain babanod
– Golchi gemwaith â llaw