Mae Canghellor San Steffan, Philip Hammond wedi rhybuddio bod rhaid lleihau dyledion Prydain, ond mae’n mynnu bod y sefyllfa’n gwella ar ôl blynyddoedd o lymder.

Fe fydd e’n amlinellu ei gynlluniau ariannol yn ei Ddatganiad Gwanwyn cyntaf ddydd Mawrth.

Mae’n dweud bod dyledion Prydain yn rhy uchel, a bod rhaid dod o hyd i ffyrdd i’w lleihau.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Mae goleuni ben draw’r twnnel oherwydd yr hyn ry’n ni ar fin ei weld yw dyled yn dechrau cwympo ar ôl tyfu’n barhaus am 17 o flynyddoedd.

“Mae’n foment bwysig iawn i ni ond ry’n ni’n dal i fod yn y twnnel ar hyn o bryd.”

Dyled

Eglurodd Philip Hammond mai £1.8triliwn yw dyled Prydain, sy’n cyfateb i 86.5% o’r holl GDP, sy’n “uwch na’r lefel sy’n ddiogel”, meddai.

Dywedodd fod angen ymateb i unrhyw heriau heb gyrraedd 100% o GDP.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi bod lefelau benthyg arian oddeutu £7bn yn is na’r disgwyl yn 2017-18.

Ond fydd e ddim yn addasu ei gynlluniau ar gyfer gwariant.

‘Angen newid cyfeiriad’

Ond yn ôl Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, dydy dulliau’r Llywodraeth ddim yn llwyddo ar hyn o bryd, ac mae’n galw am newid cyfeiriad.

“Mae llymder yn dal twf yn ei ôl,” meddai. “Mae cyflogau’n is nag yr oedden nhw yn 2007-08 felly dydi hyn ddim yn achos i ddathlu.”

Dywedodd fod Philip Hammond wedi “trosglwyddo’r ddyled” i reolwyr y Gwasanaeth Iechyd, prifathrawon ac arweinwyr llywodraeth leol.