Mae sylwadau a wnaeth Jeremy Corbyn ar fewnfudo mewn araith yng nghynhadledd Llafur yr Alban ddoe wedi cythruddo aelodau blaenllaw o’i blaid.

Wrth drafod ei farn ar Brexit, roedd Jeremy Corbyn wedi dweud na allai llywodraeth Lafur yn y dyfodol “gael ei dal yn ôl, o fewn neu’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, … rhag rhwystro cyflogwyr allu mewnforio llafur asiantaeth rhad, i ostwng tâl ac amodau yn enw uniongrededd y farchnad rydd”.

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu ei sylwadau mae Kezia Dugdale, cyn arweinydd Llafur yn yr Alban.

“Dylai ein plaid ni, plaid rhyngwladoldeb a chydraddoldeb sy’n credu mewn rhyddid, gobaith a chyfle, fod yn un sy’n falch o ddadlau dros fewnfudo,” meddai.

“Plaid sy’n mynd ati i ddadlau’n gadarnhaol fod ein gwlad yn gyfoethocach yn ddiwylliannol ac yn economaidd oherwydd mewnfudo, nid er ei waethaf.

“Plaid sy’n datgan yn glir a diamwys mai ideoleg llymder y Torïaid sy’n gyfrifol am eich trafferthion i gael swydd, cael tŷ neu weld eich meddyg – nid eich cymydog Pwylaidd y drws nesaf.

“Mae pob diwrnod rydyn ni’n methu â gwneud hynny yn ddiwrnod y mae Nigel Farage a’i debyg yn gwenu.”

Cefnogi’r Farchnad Sengl

Dywedodd Ian Murray, AS De Caeredin, sy’n ymgyrchu dros i Lafur gefnogi aros yn y Farchnad Sengl, ei fod yn siomedig iawn gydag agwedd Jeremy Corbyn.

“Mae mewnfudo’n dda i’r Deyrnas Unedig ac i’r Alban a rhaid inni fod yn ddigon dewr i sefyll a dadlau dros hyn,” meddai.

“Ac ro’n i’n hynod o siomedig o weld ddoe mai’r unig un fyddai’n gwenu ar ôl y sylwadau hyn yn araith Jeremy fyddai Nigel Farage.”

Dywedodd ei fod yn ffyddiog fod aelodaeth Llafur yn cefnogi’r ymgyrch dros aros yn y Farchnad Sengl, ac mai’r her bellach yw argyhoeddi mainc flaen Llafur.