Mae teulu gwraig o Brydain sydd mewn carchar yn Iran yn credu bod yr awdurdodau yn y wlad wedi cytuno i’w rhyddhau.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei charcharu am bum mlynedd ar gyhuddiadau’n ymwneud ag ysbïo yn 2016. Mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau ac yn mynnu mai’r unig reswm ei bod yn Iran oedd i gyflwyno’i merch ifanc Gabriella i’w rhieni.

Er bod ei gŵr, Richard Ratcliffe, yn obeithiol bellach ei bod ar fin cael ei rhyddhau, nid yw’n gwybod pa bryd y bydd hynny’n digwydd, ac mae’n ceisio mwy o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson.

“Rydym wedi bod yn derbyn gwell negeseuon o Iran, a’r wythnos yma fe ddywedodd llywodraethwr y carchar ei fod wedi cymeradwyo ei rhyddhau rai misoedd yn ôl,” meddai Richard Ratcliffe.

“Felly, dw i’n obeithiol fod pethau’n symud.

“Ond hoffwn gyfarfod yr Ysgrifennydd Tramor i holi’n union beth sy’n mynd ymlaen a beth sy’n achosi’r oedi.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn ymdrin â phob achos yn y modd sydd debycaf o lwyddo, ac nad ydyn nhw’n arfer gwneud sylwadau cyson ar goedd.