Parhau mae’r ymchwilio i achos gwenwyno’r ysbïwr Rwsiaidd Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn Salisbury (Caersallog) ddydd Sul diwethaf.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd yn cadeirio cyfarfod brys o Cobra – pwyllgor y Llywodraeth sy’n ymateb i argyfyngau – y prynhawn yma i drafod y datblygiadau diweddaraf yn ymchwiliad yr heddlu.

Mae’r Rwsiad a’i ferch yn dal i fod mewn cyflwr peryglus, ac mae’r Ditectif Ringyll Nick Bailey, a ddaeth i gysylltiad â’r gwenwyn ar gychwyn yr ymateb gan y gwasanaethau brys, hefyd mewn cyflwr difrifol er ei fod yn gwella erbyn hyn.

Cafodd tua 180 o filwyr, gan gynnwys y Royal Marines ac arbenigwyr arfau cemegol eu hanfon i Salisbury ddoe i helpu yn yr ymchwiliad.

Cafwyd hyd i Sergei a Yulia Skripal yn anymwybodol ar fainc yng nghanol y ddinas, a chynyddu mae’r amheuon fod llywodraeth Rwsia yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Fe fu Sergei Skripal yn gweithredu fel asiant dwbl i lywodraethau Rwsia a Phrydain am flynyddoedd.