Disgwylir i weinyddwr Toys R Us ddechrau cau siopau a dechrau diswyddo staff yr wythnos nesaf, gyda’r gobaith o ddod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes wedi pylu.
Penododd y gadwyn deganau Moorfields Advisory i oruchwylio gweinyddiaeth ddiwedd mis Chwefror ar ôl i’r cwmni fethu â dod o hyd i achubwr munud olaf.
Dywedodd Moorfields y byddai’n dechrau cau’r siopau fesul dipyn.
Toys R Us yw un o siopau gwerthu teganau mwyaf gwledydd Prydain, yn cyflogi mwy na 3,000 mewn 100 o siopau.