Mae nifer o bobol sy’n dioddef o glefyd y galon yn darganfod bod ganddyn nhw’r cyflwr dim ond ar ôl cael trawiad ar y galon, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil, sydd wedi’i gynnal gan Sefydliad Prydeinig y Galon, hefyd yn dangos bod un allan o bob pump o’r rheiny sydd wedi etifeddu’r cyflwr, ddim yn gwybod eu bod nhw’n dioddef ohono nes ar ôl i aelod o’u teulu farw.

Yn ôl yr elusen, maen nhw’n amcangyfrif bod gan tua 620,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig enyn sydd yn eu gwneud yn fwy tebygol o naill ai ddatblygu clefyd y galon neu farw’n ifanc.

Mae pob person sydd wedi etifeddu’r cyflwr wedyn gyda siawns o 50% o etifeddu’r union enyn – gyda’r mwyafrif ddim yn ymwybodol o hynny.

Mae’r ffigyrau hefyd yn amcangyfrif bod o leiaf 12 person ifanc o dan 35 oed yn marw o ganlyniad i glefyd y galon bob wythnos yn y Deyrnas Unedig.

Ymgyrch ‘Yn eich Genynnau’

Daw’r ffigyrau fel rhan o ymgyrch gan yr elusen, sef “Yn eich Genynnau”, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth am sut y gall clefyd y galon gael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ac mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn annog pobol i siarad mwy â’u teuluoedd am y mater, gan holi os mai clefyd y galon oedd yn gyfrifol am rai marwolaethau sydyn yn eu teulu.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai profion geneteg gael eu cynnal i’r teulu cyfan unwaith mae un aelod yn darganfod ei fod yn dioddef o’r cyflwr.

Angen “gwella’r ymwybyddiaeth”

“Yn rhy aml, dyw pobol ddim yn ymwybodol o hanes eu teuluoedd, neu dy’n nhw ddim yn ymwybodol bod unrhyw farwolaethau sydyn yn gysylltiedig, o bosib, gyda chlefyd y galon,” meddai Syr Nilesh Samani, Prif Weithredwr Meddygol Sefydliad Prydeinig y Galon.

“Mae angen i ni wella’r ymwybyddiaeth o’r cyflyrau hyn, a sicrhau bod pobol yn cael mynediad cyfartal i brofion geneteg ledled y Deyrnas Unedig.”