Mae bachgen yn ei arddegau wedi ei saethu’n farw ger sinema yn Llundain.
Dyma’r plentyn cyntaf i farw, yn dilyn helynt pan gafodd heddlu eu galw i Hollywood Green, Wood Green, yng ngogledd y ddinas toc wedi amser cinio heddiw (dydd Iau, Mawrth 8).
Fe gafwyd y dyn ifanc wedi’i anafu y tu allan i’r sinema. Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.
Does neb wedi cael eu harestio hyd yma.