Mae pobol gwledydd Prydain yn taflu gwerth £12.5bn o ddillad sy’n berffaith iawn i’w gwisgo bob blwyddyn, yn ôl astudiaeth.

Mae ymchwilwyr yn dweud fod pobol gwledydd Prydain wedi mabwysiadu diwylliant “taflu i ffwrdd” o ran dillad a ffasiwn.

Dengys y data eu bod, at gyfartaledd, yn taflu wyth eitem gwerth £24 yr un, sy’n golygu fod pob oedolyn yn taflu gwerth £192 o ddillad bob blwyddyn.

Yn ôl yr ymchwil gan Vanish fel rhan o’i ymgyrch “#LoveforLonger” – mae 51% o oedolion yn cyfaddef taflu dillad sy’n hollol iawn i’w gwisgo – gyda 18% yn honni bod angen mwy o le yn eu cwpwrdd dillad.

Cyfaddefodd 29% i daflu dillad allan oherwydd staeniau, ac roedd bron i chwarter (23%) byth yn ceisio glanhau marciau cyn eu taflu – oherwydd bod yr eitem “yn rhad”.

Mae rhesymau eraill yn cynnwys taflu dillad oherwydd tyllau, eitemau sy’n perthyn i gyn-gariadon a’r dymuniad i gael edrychiad newydd.