Mae cynlluniau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn rhoi’r hawl i lysoedd ddefnyddio tagiau electronug er mwyn cadw troseddwyr yn gaeth yn eu cartrefi.

Fe fydd y gorchmynion sifil newydd yn cynnig mwy o ffyrdd o gyfyngu ar bobol sy’n euog o gam-drin domestig.

Am y tro cyntaf erioed, mae’r pwerau yn galluogi llysoedd i ddefnyddio tagiau electronig wrth ddedfrydu.