Mae dynes wedi ei chanfod yn farw yn ei chartref yn ne Llundain, a hynny lai nag awr wedi i gyrff ei gŵr a’i dau fab ifanc gael eu darganfod mwy na 80 milltir i ffwrdd.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cyhoeddi ei bod nhw’n ymchwilio i achos o lofruddio ar ôl i’r ddynes, sydd yn ei 40au, gael ei darganfod gydag anafiadau yn ei chartref yn South Road, Twickenham, toc cyn 6yh neithiwr (dydd Llun, Mawrth 5).

Roedd swyddogion o’r heddlu wedi ceisio cysylltu a’i gŵr, 57 oed, a’i dau fab, a oedd rhwng saith a 10 oed, yn dilyn y canfyddiad.

Ond, fe gawson nhw eu hysbysu gan heddlu Sussex fod cyrff dyn a dau o fechgyn ifanc wedi’u darganfod ger traeth Birling Gap yn Eastbourne, am tua 5yh y diwrnod hwnnw.

Mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw wedi adnabod y cyrff yn ffurfiol eto, er ei bod nhw’n “credu” mai teulu’r ddynes ydyn nhw.

Dy’n nhw ddim wedi arestio neb, nac yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad chwaith.

Mae dal disgwyl i brofion post-mortem gael eu cynnal, ac mae’r teulu agosaf wedi cael eu hysbysu.