Mae Syr Roger Bannister, y dyn cyntaf i redeg milltir mewn llai na phedair munud, wedi marw’n 88 oed.

Fe fu farw’n dawel yn Rhydychen ddydd Sadwrn, meddai ei deulu mewn datganiad.

Roedd ei deulu o’i gwmpas, meddai’r datganiad, gan ychwanegu eu bod nhw “wedi’u caru gymaint ganddo fe ag yr oedden nhw’n ei garu fe”.

“Fe gadwodd ei drysor yng nghalonnau ei ffrindiau,” ychwanegon nhw.

Y filltir enwocaf

Daeth ei awr fawr ar Fai 6, 1954 yn Rhydychen, ond 46 diwrnod yn unig y parodd y record am y filltir gyflymaf erioed – fe gyflawnodd y gamp mewn tair munud a 59.4 eiliad.

Fe enillodd e fedal aur am redeg milltir yng Ngemau’r Gymanwlad 1954.

Cafodd ei ystyried ar gyfer tîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 1948, ond fe lwyddodd i ennill ei le yn y tîm bedair blynedd yn ddiweddarach, gan dorri record Prydain wrth orffen yn bedwerydd yn y ras 1500 metr.

Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac fe aeth yn ddiweddarach yn niwrolegydd. Fe ddefnyddiodd ei arbenigedd i ddyfeisio rhaglenni ymarfer iddo fe ei hun, ac fe arweiniodd hynny at ei record fwyaf un yn 1953.

Ymddeolodd o’r byd athletau yn 1954, a mynd yn niwrolegydd llawn amser.