Fe fydd tafarnau yng Nghymru a Lloegr yn cael ymestyn eu horiau agor er mwyn dathlu priodas Tywysog Harry a Meghan Markle ym mis Mai.
Daeth cadarnhad o’r newyddion gan Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd wrth iddi ddweud y byddai’r rheolau’n cael eu llacio am y diwrnod.
Fe fydd hawl gan dafarnau i agor tan 1 o’r gloch y bore ar ddiwrnod y briodas a’r diwrnod ar ôl y briodas.
Daeth y penderfyniad ar ôl ymgynghoriad oedd wedi para mis.
Dywedodd Amber Rudd fod y briodas yn “gyfle i gymunedau ar hyd a lled y wlad i ymuno â’i gilydd a dathlu’r achlysur mawr a hapus i’n teulu brenhinol a’n cenedl”.
Y briodas
Bydd y Tywysog Harry a Meghan Markle yn priodi yng Nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor ar Fai 19.
Bydd yr oriau agor yn cael eu hymestyn ar Fai 18 a Mai 19.
Mae’r briodas yn cael ei chynnal ar ddiwrnod rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.
Mae hawl gan yr Ysgrifennydd Cartref lacio rheolau trwyddedu ar gyfer dathliadau o bwys eithriadol rhyngwladol, cenedlaethol neu leol. Yn y gorffennol, cafodd y rheolau eu llacio ar gyfer priodas Dug a Duges Caergrawnt, Jiwbilî Diemwnt y Frenhines a’i phen-blwydd yn 90 oed.
Mae Cymdeithas Gwrw a Thafarnau Prydain wedi croesawu’r newyddion.