Mae datblygwyr yn llwyddo i osgoi codi degau o filoedd o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig oherwydd gwendid yn y drefn gynllunio, yn ôl adroddiad newydd.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygwyr ddarparu cyfran o dai fforddiadwy – tua 30% yn aml – mewn unrhyw ddatblygiad newydd.

Fodd bynnag, mae llawer yn defnyddio ‘asesiadau hyfywedd’ i ddadlau dros ostwng y gyfran ar y sail y byddai’r amod yn niweidio’u rhagolygon am elw.

Wrth baratoi’r adroddiad ar y broblem, fe wnaeth yr elusen Shelter, ar y cyd â’r mudiad Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig, edrych ar wyth o gynghorau gwledig yn Lloegr dros gyfnod o flwyddyn.

Mae eu dadansoddiad yn dangos bod hanner y tai fforddiadwy a gafodd eu pennu gan y cynghorau wedi cael eu colli pan oedd datblygwyr yn defnyddio asesiadau hyfywedd.

Cernyw

Un o’r ardaloedd a gafodd eu hymchwilio oedd Cernyw, lle mae galw am ail gartrefi a phobl yn symud yno i ymddeol wedi arwain at dai yn gwerthu am fwy na naw gwaith cyflogau cyfartalog pobl leol.

Yn ôl yr adroddiad, roedd datblygwyr yn dal i ystumio rheolau cynllunio i dorri ar nifer y tai fforddiadwy er gwaethaf hyn.

“Collodd Cernyw 232 o dai fforddiadwy lle cafodd asesiadau hyfywedd eu cyflwyno, gan ostwng y gyfran o dai fforddiadwy a ddylai fod yn 40% yn ôl polisi’r Cyngor,” i 26%, meddai’r adroddiad.

“Mewn un achos, llwyddodd un masnachwr tir i gael gwared yn llwyr ar y cwota tai fforddiadwy mewn cynllun yn Redruth ar y sail nad oedd yn hyfyw yn ariannol – cyn mynd ymlaen i hysbysebu’r tir fel cyfle deniadol i ddatblygu ar gost o £1.3 miliwn.”