Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae’r Gweinidog Amddiffyn, Gavin Williamson, wedi cyhoeddi y bydd llong rhyfel newydd yn cael ei enwi’n HMS Cardiff.

Dyma’r trydydd llong yn hanes y Llynges Frenhinol i gael ei henwi ar ôl prifddinas Cymru.

Fe gafodd yr enw ei ddefnyddio’n gyntaf ar long yr oedd y Llynges wedi’i chipio oddi ar yr Iseldirwyr yn y 17eg ganrif.

Roedd yr ail a’r trydydd wedyn yn perthyn i gyfnod diweddarach,  gyda’r naill mewn gwasanaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r llall yn ystod rhyfelodd y Malvinas, y Gwlff a Cosofo.

Mae disgwyl y bydd yr HMS Cardiff newydd yn cychwyn ar ei gwasanaeth erbyn y 2020au, a hynny er mwyn amddiffyn cludwyr awyrennau (aircraft carriers) y Llynges.

“Teyrnged arbennig” i Gymru

Yn ôl y Gweinidog Amddiffyn, Gavin Williamson, mae’r cyhoeddiad hwn yn “deyrnged arbennig” i Gymru a’r brifddinas.

“Fe fydd hi’n cryfhau amddiffynfeydd y Deyrnas Unedig ledled y moroedd – gan amddiffyn ein cludwyr awyrennau ac amddiffyn ein moroedd rhag unrhyw fygythiadau,” meddai.

Mae seremoni arbennig yn cael ei gynnal ym mlasdy Llancaiach Fawr yng Nghaerdydd heddiw, lle bydd yr Aelod Seneddol, Guto Bebb, yn bresennol.