Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyfarfod â’i chabinet yn ddiweddarach heddiw, gyda’r nod o sicrhau undod.

Ddydd Gwener (Mawrth 2) fe fydd fydd Theresa May yn traddodi araith am ei gweledigaeth Brexit, cyn cyfarfod â Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn Downing Street.

Daw cyfarfod Cabinet heddiw wrth i densiynau mewnol y Torïaid amlygu eu hunain unwaith eto, gyda Syr John Major a’r Arglwydd Michael Howard yn gwrthdaro.

Yn dilyn galwad gan y cyn-Brif Weinidog, John Major, am bleidlais rydd i Aelodau Seneddol ar ffurf derfynol dêl Brexit, mae Michael Howard yntau wedi awgrymu ei fod yn ceisio “llywio’r car o’r sedd gefn”.

“Pan oedd e’n Brif Weinidog roedd e’n eithaf anhapus gydag ymyrraeth un o’i rhagflaenwyr,” meddai Michael Howard, gan gyfeirio at berthynas John Major â Margaret Thatcher.