Mae traean o bobol ifanc yn y Deyrnas Unedig yn hunan-niweidio ar ryw bwynt yn ystod eu hoes, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg, lle cafodd 1,000 o bobol ifanc 16-25 oed eu holi, wedi’i gynnal gan yr elsuenau, Self-Harm UK, The Mix a Young Minds, ac yn datgelu bod 36% o’r rheiny’n hunan-niweidio.

Roedd hefyd yn dangos mai dim ond 46% a fyddai’n gwybod pa gamau i’w cymryd pe bai ffrind yn cyfaddef iddyn nhw eu bod yn hunan-niweidio.

Mae’r elusennau felly wedi mynd ati i gyhoeddi cynghorion i bobol ifanc ar gyfer delio â sefyllfa o’r fath, gyda’r rheiny’n cynnwys gwrando ar eu ffrind, chwilio am gymorth, a’u cefnogi yn y tymor hir.

Angen cefnogi pobol ifanc

“Mae’n sioc bod hunan-niweidio’n parhau o fod yn broblem ymhlith pobol ifanc wrth iddyn fethu ag ymdopi gyda’u lles emosiynol,” meddai Chris Martin, Prif Weithredwr The Mix.

“Beth sy’n glir o’r arolwg hwn yw bod cefnogaeth gan ffrindiau yn gallu chwarae rhan fawr mewn helpu pobol ifanc i wella.”

“Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod pobol ifanc – neu hyd yn oed eu ffrindiau – yn gwybod ble i droi pan ydyn nhw’n hunan-niweidio, gan wybod bod cefnogaeth pobol yn chwarae rhan fawr mewn cefnogi’r rheiny sy’n cael eu heffeithio.”