Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n derbyn unrhyw rhoddion ariannol o law Max Mosley yn y dyfodol, ar ôl i bamffled hiliol yn dyddio’n ol bron i 60 mlynedd gael ei ’darganfod’.

Mae’r pamffled gan gyn-lywydd FIA yn dyddio o 1961, ac yn cefnogi ymgeisydd yr Union Movement, sef plaid ei dad, Oswald Mosley, ar gyfer is-etholiad yn y flwyddyn honno.

Fe gafodd y pamffled ei ddarganfod gan bapur newydd The Daily Mail wrth iddyn nhw bori trwy archifau hanesyddol ym Manceinion, ac mae’n cynnwys sylwadau sy’n cysylltu ffoaduriaid sydd ddim yn wyn gyda chlefydau megis y dicáu, leprosi a chlefydau rhywiol.

Pamffled “ffiaidd”

Mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur wedi disgrifio’r pamffled fel un “ffiaidd”, gan ychwanegu na fydd dirprwy arweinydd y Blaid, Tom Watson – sydd wedi derbyn dros £500,000 gan Max Mosley yn y gorffennol – na chwaith y blaid yn derbyn unrhyw daliadau pellach oddi wrtho.

“Mae’r Blaid Lafur wedi symud ymlaen o dderbyn rhoddion mawr wrth unigolion cyfoethog,” meddai.

“Dw i ddim yn credu na fydd unrhyw daliadau gan Max Mosley yn cael eu gwneud i’r Blaid Lafur na Tom Watson. Cafodd y taliadau diwethaf eu gwneud y llynedd.”