Er bod yr eira wedi clirio rywfaint yng Nghymru, mae teithwyr yn Lloegr yn wynebu amodau heriol o hyd.

Mae sawl ffordd yng ngogledd ddwyrain Lloegr a Swydd Gaergrawnt wedi’u cau, ac yn ne ddwyrain y wlad mae awdurdodau wedi bod yn cynorthwyo cerbydau sy’n sownd yn yr eira.  

Yn ogystal, mae teithiau awyr wedi’u heffeithio gan y tywydd oer, gyda chwmni awyrennau British Airways yn disgwyl gorfof gohirio teithiau am weddill yr wythnos.

Mae’n ddigon posib y gall y tymheredd ddisgyn i minws 15C – mor oer â gogledd Norwy a Gwlad yr Iâ – ac erbyn ddydd Iau mi fydd Storm Emma yn cyrraedd y glannau.

Fe fydd rhybudd tywydd oren mewn grym dros rannau helaeth o Gymru yfory, gyda dynion tywydd yn disgwyl gwyntoedd cryfach ac eira trwm a fydd yn troi’n rhew erbyn ddydd Gwener.