Mae pedwar o bobol wedi marw heddiw mewn damweiniau ceir, wrth i eira trwm barhau i ddisgyn yng ngwledydd Prydain.

Fe laddwyd tri o bobol mewn gwrthdrawiad yn Swydd Lincoln, a bu farw dyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Swydd Gaergrawnt.

Yn ogystal â’r damwain angheuol, mae 20 achos arall o wrthdrawiadau wedi bod ar heolydd rhewllyd Swydd Lincoln, yn cynnwys un digwyddiad â bws ysgol – ond chafodd neb ei niweidio.

Rhybudd 

Mae rhybudd tywydd melyn o hyd mewn grym yng Nghymru, er bod disgwyl i hyn gael ei uwchraddio i rybudd oren erbyn ddydd Iau pan fydd Storm Emma yn taro.

Yng Nghymru mae dros 200 o ysgolion wedi cau oherwydd y tywydd: Conwy (58), Sir Ddinbych (35), Sir y Fflint (40), Gwynedd (67) ac Ynys Môn (21).