Fe allai milwyr Prydain fod ar eu ffordd i Syria i ymladd yn erbyn lluoedd yr arlywydd Bashar Assad, meddai Boris Johnson.

Fe allai hynny ddigwydd, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, pe bai yna dystiolaeth gadarn fod yr arlywydd wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn ei bobol ei hun.

“Mae’n bwysig i gydnabod nad oes datrysiad milwrol y gallwn ni fod yn ei osod arnyn nhw,” meddai Boris Johnson ar raglen Today ar Radio 4.

“Ond yr hyn sy’n rhaid i ni ofyn i ni’n hunain fel gwlad, ac i ninnau yn y gorllewin ei holi i ni’n hunain, yw a allwn ni ganiatau i arlywydd ddefnyddio arfau anghyfreithlon yn erbyn ei bobol, a bod hynny’n cael digwydd heb gosb? Dw i ddim yn meddwl y gallwn ni.

“Os oes yna dystiolaeth gadarn… os ydyn nhw’n gwybod fod hyn wedi digwydd a’n bod ni’n gallu ei brofi, ac os oes yna fwriad i weithredu ac y gallai’r Deyrnas Unedig fod o werth yn hynny, dw i’n meddwl y dylen ni ei ystyried o ddifri’.”

Mae mwy na 500 o bobol wedi’u lladd yn nwyrain Ghouta ers yr wythnos ddiwethaf. Y gred ydi fod nwy gwenwynig wedi’i ddefnyddio.