Fe fyddai gwledydd Prydain mewn “sefyllfa waeth nag yr ydym ynddi heddiw”, pe baem yn parhau’n aelod o’r Undeb Tollau yn dilyn Brexit.
Dyna y mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox, ei ddweud mewn araith y bydd yn ei thraddodi yn Llundain heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 27).
Fe fydd yn dadlau y byddai’n rhaid i Brydain dderbyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn ddi-gwyn trwy aros yn yr Undeb Tollau, ac na fyddai modd i’r Llywodraeth gyfrannu at lunio’r rheolau hynny.
Yn ogystal, fe fydd yn dadlau y byddai parhau’n aelod o’r Undeb Tollau yn amharu ar allu Prydain i greu cytundebau newydd â gwledydd y tu allan i Ewrop.
“Un canlyniad anochel o gynnal trafodaethau tra’ch bod wedi ei eich ffrwyno, yw eich bod yn llai deniadol i ddarpar bartneriaid masnach,” yn ol Liam Fox.
Jeremy Corbyn
Daw araith Liam Fox ddiwrnod yn unig wedi i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ddatgelu awydd ei blaid i gefnogi Undeb Tollau “newydd a chynhwysfawr” ag Ewrop.
Mae rhai yn tybio y gallai’r cyhoeddiad hwn arwain at nifer o rebeliaid Torïaidd yn ochri â Llafur tros y mater – Mae’n debyg bod llawer yn gwrthwynebu’r galw i gefnu ar undeb tollau.