Bydd y mwyafrif o bobol gafodd eu geni yn yr 1980au ac yng nghanol y 1990au, yn ordew pan fyddan nhw’n cyrraedd eu tridegau hwyr a’u pedwardegau, yn ôl ymchwil.

Mae ymchwil gan elusen Cancer Research UK yn awgrymu y bydd 70% o’r grŵp oedran yma yn ordew pan fyddan nhw rhwng 35 a 44 blwydd oed.

Mae rhagolygon yr elusen wedi’u seilio ar ddata arolwg iechyd, a daw fel rhan o ymgyrch i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng gordewdra a chanser.

Yn ôl Cancer Research UK mae yna gysylltiad rhwng gordewdra a 13 gwahanol fath o  ganser gan gynnwys canser y fron, canser y coluddyn a chanser yr aren.

Risg sylweddol

“Gan eithrio ysmygu, gordewdra yw’r prif ffactor sy’n achosi canser yn y Deyrnas Unedig, ond dydy’r rhan fwyaf o bobol ddim yn ymwybodol o’r risg sylweddol,” meddai Alison Cox, Cyfarwyddwr atal canser yr elusen.

“Pe tasai mwy o bobol yn ymwybodol o’r cysylltiad yma, efallai buasai’n helpu achub pobol o bob cenhedlaeth rhag canser.”