Fe fydd mesur, a fydd yn gosod uchafswm ar bris nwy a thrydan i 11 miliwn o gartrefi yng ngwledydd Prydain, yn cael ei gyflwyno i’r Senedd heddiw, meddai’r Llywodraeth.

Byddai’r mesur yn caniatáu i Ofgem gyfyngu ar dariffau hyd at 2020 gyda’r opsiwn i ymestyn y cyfyngiad bob blwyddyn hyd at 2023.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn gobeithio y bydd y mesur yn dod yn gyfraith cyn y gaeaf y flwyddyn nesaf, gan ddweud y byddai’n “gorfodi cwmnïau ynni i newid eu harferion.”

Fe fydd cyfyngu ar brisiau yn gostwng biliau i filiynau o deuluoedd, meddai.

Roedd adroddiad yn 2016 wedi darganfod bod cwsmeriaid yn talu £1.4 biliwn y flwyddyn yn fwy na’r hyn ddylen nhw fod drwy dariffau sylfaenol amrywiol (SVTs) cwmnïau ynni.