Mae pump o bobol wedi’u lladd wedi ffrwydrad mewn adeilad yng Nghaerlŷr nos Sul, meddai’r heddlu.

Mae pump o bobol eraill yn parhau yn yr ysbyty – mae un person wedi cael anafiadau difrifol.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n credu y gallai rhagor o bobol fod yn yr adeilad, ac mae’r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio’r safle yn Ffordd Hinckley.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad mewn siop a fflat dau lawr uwchben, tua 7 o’r gloch nos Sul.

Bu diffoddwyr tân yn gweithio drwy’r nos yn chwilio drwy’r rwbel ac yn ymladd y fflamau. Cafodd yr adeilad ei ddinistrio’n llwyr yn y digwyddiad.

Dywed yr heddlu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos y ffrwydrad, ond maen nhw’n dweud nad oes awgrym ar hyn o bryd bod cysylltiad â brawychiaeth.