Mae’r chwilio’n parhau ar safle ffrwydrad posib yng Nghaerlŷr lle cafodd chwech o bobl eu hanafu, dau ohonyn nhw’n ddifrifol.

Mae’r gwasanaethau brys yn parhau ar safle’r ffrwydrad bore ma ar ôl i ddiffoddwyr tan weithio drwy’r nos yn chwilio drwy’r rwbel ac yn brwydro’r fflamau.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad mewn siop a fflat uwchben, tua 7yh nos Sul a chafodd chwech o bobl eu cludo i’r ysbyty yng Nghaerlŷr.

Mae dau berson wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Dywed yr heddlu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos y tan ond maen nhw’n dweud nad oes awgrym ar hyn o bryd bod cysylltiad â brawychiaeth.